Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2015

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(276)

 

<AI1>

Datganiad y Llywydd

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gwnaeth y Llywydd ddatganiad i fynegi cydymdeimlad diffuant Cynulliad Cenedlaethol Cymru â theuluoedd a ffrindiau’r rhai a fu farw neu a gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad terfysgol diweddar yn Nhiwnisia.

 

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn y sylwadau cychwynnol a wnaeth y Prif Weinidog ar y digwddiadau trychinebus yn Nhiwnisia, a wnaiff ddatganiad llawn ar ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol?

 

</AI2>

<AI3>

1     Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.38

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI3>

<AI4>

2     Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.35

 

</AI4>

<AI5>

3     Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 – y wybodaeth ddiweddaraf

 

Dechreuodd yr eitem am 14.48

 

</AI5>

<AI6>

4     Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – flwyddyn ers ei chyflwyno

 

Dechreuodd yr eitem am 15.32

 

</AI6>

<AI7>

5     Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Donaldson

 

Dechreuodd yr eitem am 15.59

 

</AI7>

<AI8>

6     Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Metro

 

Dechreuodd yr eitem am 16.46

 

</AI8>

<AI9>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 mins)

 

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

 

</AI9>

<AI10>

7     Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015

 

Dechreuodd yr eitem am 17.31

 

NDM5795 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015  yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin  2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI10>

<AI11>

8     Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015

 

Dechreuodd yr eitem am 17.31

 

NDM5796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2015.

 

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI11>

<AI12>

9     Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015

 

Dechreuodd yr eitem am 17.41

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5797 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

12

0

51

Derbyniwyd y Cynnig.

 

</AI12>

<AI13>

10Dadl ar Adroddiad Gweinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

 

Dechreuodd yr eitem am 17.44

 

NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol.

 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol.

 

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI13>

<AI14>

11Cyfnod pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem ar 18.21</AI14>

<AI15>

 

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.21

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>